1.       Cytûn yw’r corff ymabrél ar gyfer deuddeg o brif enwadau Cristnogol Cymru. Rydym wedi ymgynghori gyda Swyddogion Eiddo ein haelod eglwysi ac aelodau Categori B (cyrff Cristnogol eraill sy’n gweithio yn y maes) wrth lunio’r ymateb hwn.

2.       Mae CADW yn amcangyfrif fod o leiaf 30,000 o adeiladau a strwythurau rhestredig yng Nghymru, ac fe dderbyniodd Mike Hedges AC ymateb gan y gweinidog yn nodi fod rhyw 4,500 o’r rhain yn adeiladau neu strwythurau crefyddol. Mae’r rhan helaethaf o’r rhain yn nwylo eglwysi Cristnogol sy’n aelodau gyda Cytûn, er bod rhai yn nwylo cyrff Cristnogol eraill, mae rhai wedi eu prynu gan gymunedau ffydd eraill a mae rhai bellach yn cael eu defnyddio at ddibenion nad ydynt yn grefyddol. Mae gennym felly ddiddordeb sylweddol yn y materion a gyffyrddir gan y Bil hwn.

3.       Yn yr hyn sy’n dilyn, rydym yn cyfeirio o dro i dro at y prosesau ar gyfer Eithriad Eglwysig, gan fod diffyg esboniad o fewn y dogfennau sydd eisoes ar gael am sut y bydd y ddeddfwriaeth a’r canllawiau newydd yn effeithio ar y prosesau hyn yn peri gofid i’r enwadau perthnasol (gweler paragraffau 5-6 isod). Ond mae gweddill ein hymateb yn ymwneud â’r holl adeiladau eglwysig hanesyddol yng Nghymru.

4.       Rydym yn croesawu cyhoeddi dogfennau atodol drafft a NCT 24 drafft ar y cyd â’r Bil, er ein bod yn siomedig nad yw’r Cynllun Gweithredu Strategol ar gyfer Adeiladau Crefyddol Hanesyddol eto ar gael. Mae bron pob adeilad eglwysig yng Nghymru yn ‘hanesyddol’ ar ryw ystyr, a bydd cynnwys y Cynllun hwn o bwys allweddol i reolaeth ein haelod eglwysi ar yr asedau hyn yn y blynyddoedd nesaf. Mae Swyddogion Etifeddiaeth yr Awdurdodau Lleol yn Ne Cymru wedi ffurfio partneriaeth anffurfiol, ac fe gynrychiolir yr eglwysi yn y bartneriaeth honno gan y mudiad Sanctaidd. Mae Sanctaidd yn aelod Categori B yn Cytûn ac wedi ymwneud â’r ymateb hwn.

5.       Rydym yn gofidio mai’r unig gyfeiriad at Eithriad Eglwysig yn y dogfennau drafft a gyhoeddwyd yw hwnnw ym mharagraff 5.17 NCT 24 drafft. Rydym yn deall y cyhoeddir gyda’r Cynllun Gweithredu Strategol y rheoliadau drafft parthed cymhwyso darpariaethau’r Bil i’r adeiladau hynny sydd ag Eithriad Eglwysig o’r trefniadau seciwlar ar gyfer Caniatâd Adeilad Rhestredig. Dim ond pan welwn y rheoliadau drafft hynny fyddwn ni mewn sefyllfa i wybod sut yn union y bydd y newidiadau a arfaethir yn effeithio’r eglwysi hynny sydd wedi eu heithrio. Mae’n bwysig nodi i’r broses Eithriad Eglwysig gael ei dyfeisio er mwyn caniatáu cydbwysedd priodol rhwng gwarchod nodweddion hanesyddol yr adeilad a pharhau i ddefnyddio addoldy ar gyfer ei bwrpas gwreiddiol wrth i ddulliau addoli esblygu a newid.

6.       Credwn y byddai o gymorth pe gellid cynnwys yn yr holl ddogfennau perthnasol ddatganiad tebyg i hwnnw ym mhara 5.17 NCT 24 drafft, mewn iaith llai technegol. Mewn llawer achos fe reolir adeiladau crefyddol sydd wedi eu heithrio gan wirfoddolwyr lleol nad ydynt yn gyfarwydd â holl gymhlethdodau’r Eithriad. Nid yw hyd yn oed ymgynghorwyr proffesiynol nad ydynt yn gweithio’n gyson ym maes adeiladau crefyddol bob tro yn sylweddoli fod angen iddynt ddilyn trefn wahanol i’r arfer ar gyfer ceisio Caniatâd Adeilad Rhestredig. Rydym hefyd yn gofidio y gellid dehongli’r geiriad ym mhara. 5.17 i olygu, yn gyfeiliornus, nad oes angen caniatâd i newid neu ddymchwel adeilad o’r fath. Awgrymwn y dylid cynnwys geiriad ar y llinellau canlynol yn gynnar ym mhob dogfen berthnasol:

Mae prosesau cydsyniad adeilad rhestredig a chydsyniad ardal gadwraeth yn gweithredu mewn modd gwahanol yn achos adeiladau eglwysig sy’n perthyn i Eglwys Loegr, yr Eglwys yng Nghymru, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys Fethodistaidd, Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Undeb Bedyddwyr Cymru. Pan ystyrir dymchwel, newid neu estyn yr adeiladau rhestredig sydd yn eu gofal hwy, dylid cysylltu â’r enwad perthnasol am arweiniad.

(Mae’r geiriad hwn yn cymryd yn ganiataol y trefnir i’r Eglwys Ddiwygiedig Unedig yng Nghymru ymadael â’r cynllun Eithrio, yn unol â’i chais).

7.       Rydym hefyd yn synnu fod nodyn 64 i bara 5.17 NCT 24 yn dweud fod y canllawiau presennol am Eithriad Eglwysig under review to put in line with that published in England in 2010 [mae’r nodyn yn y ddogfen Gymraeg yn Saesneg]. Credwn y dylai’r canllawiau ar gyfer Cymru o reidrwydd fod yn wahanol i ganllawiau 2010 ar gyfer Lloegr er mwyn cymryd i ystyriaeth ddarpariaeth y Bil hwn, o’i basio.

8.       Byddem am atgoffa’r Pwyllgor fod y drefn a ddilynir gan yr enwadau sy’n derbyn Eithriad Eglwysig (efallai y byddai Cydsyniad Eglwysig yn well term) os rhywbeth yn fwy caeth na’r drefn seciwlar – er enghraifft, mae angen hysbysu gwaith atgyweirio gan ddefnyddio'r deunyddiau a'r technegau a ddefnyddiwyd yn wreiddiol, er nad oes angen gwneud hynny o fewn y drefn seciwlar. Mae’r enwadau perthnasol, ynghyd ag Eglwys Bresbyteraidd Cymru (nad yw’n dilyn trefn Eithriad Eglwysig) yn sicrhau cynnal arolwg o bob adeilad rhestredig sydd yn eu gofal bob pum mlynedd. Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn cyflwyno i’r Pwyllgor dystiolaeth fanylach am ei threfniadau hi.

9.       Asesiadau o’r Effaith ar Dreftadaeth (NCT 24, para 5.6, B.10). Rydym yn croesawu’r cynnig hwn i gyfuno mewn un ddogfen nifer o’r dogfennau gofynnol (megis y Datganiad Arwyddocâd a’r Datganiad Angen). Dylai hyn osgoi dyblygu ymdrech a hyrwyddo darllen y deunydd. Ydyn ni’n iawn i gasglu y bydd hyn yn ofynnol ar gyfer adeiladau sy’n dod o fewn yr Eithriad Eglwysig?

10.   Cytundebau Partneriaethau Treftadaeth (NCT 24, para 5.13). Rydym yn croesawu’r syniad hwn, er nad ydym yn eglur sut (os o gwbl) y bydd yn effeithio ar yr Eithriad Eglwysig. Nodwn ar lefel ymarferol y gall fod yn anodd  dwyn ynghyd pawb sydd ynglŷn â Phartneriaeth. Fe fydd gweithredu cytundeb sydd wedi ei gyfyngu o ran amser yn dibynnu ar gael arian i’r diben hwnnw. Diffyg arian sydd yn aml yn golygu fod rhaid ymestyn gwaith ar grŵp o adeiladau dros gyfnod o flynyddoedd. Mae rhai enwadau Cristnogol yn gwrthwynebu ceisio am grantiau o ffynonellau loteri am eu bod yn gwrthwynebu ar sail moesol y ffordd y codir yr arian hynny. Mae hyn yn creu her sylweddol wrth ddatblygu strategaeth ar gyfer y tymor canolig neu’r tymor hir.

11.   Trafodaethau cyn ymgeisio (NCT 24 Atodiad B, para B.9). Rydym yn croesawu’r awgrym synhwyrol y dylid cynnal trafodaethau cyn ymgeisio, a nodwn fod hyn yn arfer safonol o fewn y prosesau Eithriad Eglwysig. Gofidiwn, serch hynny, am yr oblygiadau posibl pan fo swyddog cadwraeth awdurdod lleol ynglŷn â’r drafodaeth, gan ei bod yn arferol codi tâl. Mae hyn yn broblem arbennig i gyrff crefyddol a sefydliadau di-elw eraill pan fônt yn ceisio sicrhau fod cynnal a chadw adeilad rhestredig yn bosibl yn ariannol. Gallai codi tâl o’r fath filwrio yn erbyn cynnal trafodaethau cyn ymgeisio. Awgrymwn y dylai’r Llywodraeth ystyried rheoli’r ffioedd a godir mewn amgylchiadau o’r fath. Nid oes angen talu ffi wrth wneud cais am Gydsyniad Adeilad Rhestredig, boed o dan Eithriad Eglwysig neu drwy’r drefn seciwlar.


12.   Gwneud cais (NCT 24 Atodiad B, para B.10). Nodwn mai cais ddigidol a wneir o fewn y drefn seciwlar. Nid yw hyn yn bosibl hyd yma i’r enwadau sy’n manteisio ar Eithriad Eglwysig (oherwydd y gost). Fe fyddai gorfod cyflwyno offer digidol a hyfforddi staff i weithredu trefn arlein yn faich ariannol drom ac anghymesur i enwadau bychain. Hoffem holi, felly, a fyddai modd i eglwysi sydd wedi eu heithrio ddefnyddio’r mynedfeydd arlein seciwlar. Byddai hyn hefyd yn gwella tryloywder y prosesau Eithriad Eglwysig, ac yn helpu sicrhau bod cofnodion adeiladau rhestredig yn yr ardal yn gyflawn (gweler para 13 isod).

13.   Rheoli Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru. Rydym yn croesawu’r canllawiau hyn a’r bwriad tu cefn iddynt, ac yn cefnogi’n llawn cadw a gwella’r cofnodion presennol. Mae’n amlwg fod angen i’r cofnodion hyn fod mor gyflawn ag y bo modd. Nodwn nad ydym yn ymwybodol o sut, os o gwbl, y mae’r asiantaethau sy’n rheoli’r cofnodion hyn ar hyn o bryd yn dod o hyd i wybodaeth am addoldai hanesyddol i’w cynnwys, a byddem am weld dull o wneud hyn yn fwy trylwyr, mewn partneriaeth gyda’r eglwysi perthnasol.

14.   Gwaith anawdurdodedig. Rydym yn croesawu’r pwerau mwy eglur a gynigir i alluogi Awdurdodau Cynllunio Lleol (ac, o gyrraedd y pen, Gweinidogion Cymru) i ymyrryd yn achos gwaith anawdurdodedig i adeiladau rhestredig. Byddem am bwysleisio y dylid defnyddio’r pwerau hyn mewn dull cymesur. Mae peth gwaith anawdurdodedig yn achosi difrod anfwriadol ac arwynebol i eiddo, a gall hyn fod yn arbennig o wir yn achos adeiladau megis addoldai a reolir o reidrwydd gan wirfoddolwyr ag adnoddau prin iawn, o ran arian ac o ran gwybodaeth.

15.    Apeliadau. Nodwn gyda gofid na fwriedir cyflwyno proses apêl ffurfiol yn erbyn rhestru adeilad nac er gofyn am adolygu categori adeilad. Byddem yn argymell i’r Pwyllgor sylwi ar y drefn yn Lloegr a amlinellir yn https://www.gov.uk/how-to-challenge-our-decision-to-list-or-not-list-a-building ac yn enwedig y Ffurflen Gais am Adolygu Rhestriad a’r Canllawiau hylaw a ddaw gyda hi, a byddem yn argymell cyflwyno trefn debyg yng Nghymru.

Gwaetha’r modd, mae gan Gymru nifer helaeth o addoldai segur. Mewn rhai achosion, mae’r faich achosir gan restru’r adeilad wedi cyfrannu at ei droi yn segur. Mewn achosion eraill, mae diffyg proses adolygu eglur yn atal datblygu adeilad neu safle at ddefnydd a fyddai o les i’r gymuned, megis tai fforddiadwy. Credwn y byddai proses apêl hylaw yn cynnig manteision o ran cadw rhai addoldai yn addoldai, a hefyd yn galluogi ailddatblygu a fyddai o fudd i’r gymuned gyfan. Byddai hwn yn gyfle euraidd i gyflwyno proses o’r fath.

16.    Tystysgrif na fwriedir rhestru adeilad. Nodwn â diddordeb y cynnig i gyflwyno tystysgrif o’r fath, a gwelwn y gallai fod yn ddefnyddiol dan rai amgylchiadau. Ond rydym yn amau y byddai gwneud cais am dystysgrif ond yn tynnu sylw at y posibilrwydd y dylid rhestru’r adeilad, ac hefyd y byddai yn aml yn arwain at gynnwys yr adeilad ar restr leol o asedau hanesyddol, gyda chanlyniadau andwyol o bosibl i berchennog yr adeilad a’r gwaith y gobeithiai ei gyflawni arno (gweler paragraffau 18-19 isod).

17.   Panel Ymgynghorol Cymru. Rydym yn croesawu sefydlu’r Panel hwn i sicrhau fod cyngor priodol ar gael i Weinidogion Cymru. Byddem yn croesawu egluro rôl y Panel o ran addoldai hanesyddol yn gyffredinol, ac yn benodol o ran adeiladau sydd o fewn i’r Eithriad Eglwysig. Byddem yn gobeithio y byddai gan o leiaf un aelod o’r Panel yr arbenigedd priodol i gynrychioli ein sefyllfa unigryw.

18.   Rheoli Rhestrau o Asedau Hanesyddol o Ddiddordeb Lleol Arbennig yng Nghymru.Rydym wedi darllen y ddogfen hon gyda chryn ofid. Deallwn werth cadw rhestrau o asedau hanesyddol nad ydynt yn Henebion Cofrestredig nac yn Adeiladau Rhestredig. Ond nid ydym yn deall beth fyddai statws y ddogfen hon nac, yn arbennig, beth fyddai oblygiadau cynnwys adeilad mewn rhestr leol. Rydym hefyd yn gofidio nad oes yna broses eglur ar gyfer cynnwys adeilad ar restr o’r fath. Ymddengys na fyddai’r broses yn cynnwys penderfyniadau annibynnol wedi eu cymryd ar seiliau cydnabyddedig – ac y gallai’r penderfyniadau hyn gael eu gwneud gan garfan o bobl o grwpiau pwysau penodol lleol heb ymgynghori gyda pherchnogion yr adeiladau. Mae Cadw yn defnyddio seiliau cydnabyddedig wrth ystyried unrhyw gais i warchod adeilad, ac mae’r rhain yn cael eu pwyso a’u mesur yn ofalus gan Archwiliwr gydag arbenigedd a gwybodaeth berthnasol.

19.   Nodwn â gofid arbennig y datganiad yn adran 3 (tudalen 4) y byddai gan y rhestri lleol hyn ryw statws yn y Cynllun Datblygu Lleol. Ond ni fyddai yna broses cydsyniad tebyg i honno ar gyfer Adeiladau Rhestredig, ar wahân i’r broses caniatâd cynllunio safonol, ar gyfer yr adeiladau hyn. Ymddengys felly y gellid cael canlyniad paradocsaidd wrth i’r adeiladau ar restr leol gael eu gwarchod yn fwy llym na’r adeiladau ar y Rhestri a gedwir gan Weinidogion Cymru. Rydym yn amau y byddai adeiladau crefyddol ymhlith yr adeiladau a fyddai debycaf o gael eu rhestru ar sail arwyddocâd lleol. Nid yw cynulleidfaoedd lleol bychain yn debygol o fod mewn sefyllfa i apelio yn erbyn gwrthod caniatâd dan amgylchiadau felly. Ni fyddai gan yr enwadau sy’n manteisio ar Eithriad Eglwysig hyd yn oed ddiogelwch y prosesau Eithriad Eglwysig yn achos adeilad nas rhestrir gan Weinidogion Cymru. Byddem yn pwyso felly am egluro’r Canllawiau hyn, ac osgoi’r canlyniadau paradocsaidd hyn.

Rydym yn ddiolchgar i’r Pwyllgor am y cyfle i gyflwyno’r ymateb hwn, a byddem yn barod iawn i ddarparu unrhyw wybodaeth bellach fyddai o gymorth i’r Pwyllgor wrth ystyried y Bil hwn.

Parch./Revd Gethin Rhys

Swyddog Polisi’r Cynulliad Cenedlaethol / National Assembly Policy Officer

Cytun - Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales

58 Richmond Road, Caerdydd/Cardiff, CF24 3AT

Tel:  029 2046 4378  Mudol/mobile: 07889 858062

Hapus i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Happy to communicate in Welsh and English

Mae Cytûn yn gwmni cofrestredig yng Nghymru a Lloegr| Rhif: 05853982 | Enw cofrestredig: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Mae Cytûn yn elusen gofrestredig | Rhif: 1117071 | Cytûn is a registered company in England and Wales | Number: 05853982 | Registered name: “Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru/Churches Together in Wales Limited” | Cytûn is a registered charity | Number: 1117071